1. |
Ar Ôl Y Glaw
03:44
|
|||
Mae dagrau’r dydd yn dod i lawr
yn disgyn at y llawr
fel llefen mawr.
Diferion twym, diferion gwlyb
Mae’n bwrw ‘ma o hyd
Mae'n llaith i gyd
Ond daw’r heulwen unrhyw funud nawr
Ar ôl y glaw
Rwy’n syllu mas o’r ffenestri,
mae’r olygfa mor ddu
drosom ni.
Mae’r dŵr yn llifo dros y byd,
lawr pob un stryd,
i’n calon ni gyd.
Ond daw’r heulwen unrhyw funud nawr
Ar ôl y glaw
Ar ôl y glaw
Rwy’n siwr y daw
Ar ôl y glaw
Ond daw’r heulwen unrhyw funud nawr
Ar ôl y glaw
Mi fydd yn gwella maes o law
A phwy a ŵyr be ddaw
Wedi’r glaw?
Ond daw’r heulwen unrhyw funud nawr
Ar ôl y glaw
Ar ôl y glaw
Rwy’n siwr y daw
Ar ôl y glaw
|
||||
2. |
Cwcan
04:30
|
|||
Dechreua yn y dechrau
A pharatoi
I ni’n cwcan
Gwna dy feddwl lan
Dewisa be i rhoi
I ni’n cwcan
Ychwanegu bach o hyn
A mymryn bach o’r llall
I ni’n cwcan
Towli popeth yn y sosban
Ai adael am bach
I ni’n cwcan
Rho‘r cynhwysion gydai gilydd
Ai cymysgu nhw lan
I ni’n cwcan
Tro i’w wneud yn siwr
Boi ddim yn stico i’r pan
I ni’n cwcan
Ar ôl digon o amser
Bydd genno ni gawl
I ni’n cwcan
A bydd digon o ddaioni
I wneud ni’n llawn
I ni’n cwcan
|
||||
3. |
Dwyn Dŵr
03:38
|
|||
Corfforaethau mawr
Yn drilo lawr i’r llynnoedd dwfn
O dan y ddaear
A ffynhonnau’r ffermwyr
Yn gwagio i’w lefelau isaf
Ymchwiliadau y llywodraethau’n
Llwyddo dim, i ddeud y lleia
Oherwydd hyn, newyn ‘dy’r unig ganlyniad
Mae sychder yn bwrw ffermydd
Y gwledydd bach mwya bregus
Yn achosi’r tlodi i godi
A chreu angen truenus
Mwy aml na dim mae’r problemau hyn
Mor niferus
Bod miliynau o bobl yn gorfod ymudo’n
anffodus
Mae nhw’n damio
Cymoedd o hyd
Achos syched
Dinasoedd y byd
Ond mae’r costiau
Dynol yn ddrud
Boddi’r cymunedau
I gyd
Mae gormod o arian i’w wneud
Ta beth mae pobl yn ddeud
Am eu trafferth
Ond pob dydd mae hyn yn mynd mlaen
Mae’r problemau’n mynd yn fwy plaen -
Mae nhw’n anferth
Dwyn Dŵr
|
||||
4. |
Golau Glas
02:32
|
|||
Golau glas
Golau glas
Golau glas
Damia’r Golau glas
Fi’n gwneud fy ngorau glas
I dorri’r golau mas
Hyn sy’n gwneud fi’n waeth
Gwyliwch y golau glas!
Llosgi’r llygaid
Tu fewn a tu fas
Mae’n sefyllfa anioddefol
Gwyliwch y golau glas!
Dyw e ddim yn iach
Ond sanai’n hollol gall
Byddai’n benu lan yn ddall
Gwyliwch y golau glas!
Golau glas
Golau glas
Golau glas
Damia’r Golau glas
|
||||
5. |
Cestyll Papur
02:45
|
|||
Bagiau ym mhob llaw
Boed hindda neu law;
Ni’n gweld e ambell waith
Fan hyn neu fan draw
Cerdded nôl a mlân
Gorffen yn unman
Pob un dydd ar daith
Ond wastad ar wahan
Bob tro ar wahan
Casglu papurau
Am y cestyll mae’n adeladu i neb
Drifftio o ddydd i ddydd
Byw mewn byd ei hun
Crwydro mewn a mas
Y dyn arbennig hyn
Cryf fel coeden
Ond mae nhw’n chwerthin ar ei ben
So fe’n becso dim
Dyw e’n poeni neb
So fe’n poeni neb
Casglu papurau
Am y cestyll mae’n adeladu i neb
Dringo’r grisiau i’r nef
Yn ei cestyll mae’n adeladu i neb
|
||||
6. |
Lawr Yn Y Ddinas Fawr
03:14
|
|||
Mae’r haul yn dechre codi
Ar ddiwrnod newydd
A goleuo’r olygfa
Gan bwyll bach
Dyma’r oriau mân
Yn y bore
Dim tagfeydd ar yr hewlydd
Mae nhw’n wag
Dos neb i’w weld o gwmpas
Ie, mae’n dawel nawr
Ond bydd y strydoedd hyn yn llenwi
Felly gwnewch yn fawr o’r awr
Lawr yn y ddinas fawr
A’r adar ar y sgwar
Yn araf ddeffro
Ai galwadau yn cario
Ar yr aer
Gwelir dyn ar ben ei hun
Yn glanhau’r strydoedd -
Ei gerbyd bach yn fflachio
Fel pryfyn tân
Does neb i’w weld o gwmpas
Ie, mae’n dawel nawr
Ond bydd y strydoedd hyn yn llenwi
Felly gwnewch yn fawr o’r awr
Lawr yn y ddinas fawr
Mae mor dawel a’r bedd
Amser sy’n perthyn i neb
|
||||
7. |
Hedyn Ar Y Gwynt
03:17
|
|||
Na hi
Dyna rywun arall
Y diweddaraf un i fynd
Dim llawer o syndod fanna
Wedi hedfan fel hedyn ar y gwynt
Dim byd i’w chadw hi yma
Y person gwerthfawr hyn
Wedi mynd
Rhywle di-gymeriad
A chyrraedd fel hedyn ar y gwynt
Sdim bai
Arni am adael
Roedd rhai wedi mynd yn gynt
Roedd rhaid iddi ffindio’i bywyd
Fel hedyn ar y gwynt
Tra mae’r trefydd
Yn cynyddu
Mae’r pentrefi’n mynd yn brin
Y trigolion
A’r arferion
Yn diflannu fel hadau ar y gwynt
Na hi
Dyna rhywun arall
Y diweddaraf un i fynd
Dim llawer o syndod fanna
Wedi gadael fel hedyn ar y gwynt
|
||||
8. |
||||
Gad fi mewn i dy galon
Ac arhosai yn ffyddlon
Gad fi mewn i dy galon
Byddai’n gadael ti i fewn
Pan rwy’n barod
Dyweda pan wyt ti’n barod
Byddai wastad yn fodlon
Dyweda pan wyt ti’n barod
Os bydd rhywbeth da fi i ddweud
Rhoia i wybod
Wir, fi ishe gwybod
Ond rwy’n hapus i aros
Wir, fi ishe gwybod
Sanai’n gallu addo dim
Ond sai'n gwrthod
Dim ond ti dw i ishe
Neb arall yn unlle
Ti yw’r un dw i ishe
|
||||
9. |
Cynara
03:50
|
|||
Clywais i nhw gynta
Yn canu’r Afro Sambas
Syrthais i mewn cariad
Da’r merched o Bahia
Cylene
Cybele
Cyva
a
Cynara
Sonia
Dorinha
Cyva
a
Cynara
Pedwarawd mor fedrus
A’i harmoniau melys
Cantorion hudolus
A’i synau gogoneddus
Sonia
Corina
Cyva
a
Cynara
Ei chwiorydd a hi
Quarteto em Cy
Cynara
|
||||
10. |
||||
11. |
Dwfn
02:53
|
|||
Trwy’r amser
Mae’r tymheredd yn codi
Ac mae’r capiau iâ’n
Dal i doddi
Ond bydd neb yn sylweddoli
Tan bo nhw bron â boddi
Os bydd y moroedd
Yn dal i godi
Ni fydd llawer ar ôl
Yn bodoli
Dim targedau ar ôl i’w torri
Dim dyfodol, dim yfory
|
Streaming and Download help
If you like Carwyn Ellis & Rio 18, you may also like: