1. |
Unman
04:29
|
|||
Mewn twnnel hir
Rwy’n cyfro tir
Mewn twnnel hir
Symyd yn glou
Dim lle i droi
Symyd yn glou
Mae’r golau’n dod
Sdim byd yn bod
Mae’r golau’n dod
Mae hyn yn glir
Ydy, mae’n wir
Mae hyn yn glir
Does gen i’m amser rwan
Rwy ar fy ffordd i unman
Fi’n bwrw mlaen
Cyflymder sain
Rwy’n bwrw mlaen
Fflamau o dân
Mwg ym mhob man
Fflamau o dân
Sai moyn mynd nôl
I’r gorffenol
Sai moyn mynd nôl
Ffili stopio
Suddo neu nofio
Methu stopio
Rwy’n itha siwr o’m cyfeiriad
Rwy ar yn ffordd i unman
Unman Unman
Fi’n mynd i unman yn glou
Mae’n agos nawr
Y gofod mawr
Mae’n agos nawr
Mae’r golau’n dod
Sdim byd yn bod
Mawr golau’n dod
Mewn twnnel hir
Rwy’n cyfro tir
Mewn twnnel hir
Mae hyn yn clir
Ydy, mae’n wir
Mae hyn yn glir
Does gen i’m amser rwan
Rwy ar fy ffordd i unman
Rwy’n itha siwr o’m cyfeiriad
Rwy ar yn ffordd i unman
|
||||
2. |
Tywydd Hufen Iâ
03:18
|
|||
Dychmygwch brynhawn perffaith yn yr hâf
O dan yr awyr lâs
Mae’n hyfryd ym mhob man a heulog
A phawb yn aros mas
Lleisiau plant hapus a gwylanod
Yw cyfeiliant y daith
A’r tonnau yn torri wrth gyrraedd
Tywod aur y traeth
Yr hyn sy’n gwneud y byd i droi
A’n gwneud ni i deimlo’n dda
Sdim byd yn well ar ddiwrnod ffein
Mewn tywydd hufen iâ
Chi’n nofio am sbel, wedyn mynd adre
I eistedd yn yr ardd
A’ch ffrindiau o’ch cwmpas yn chwerthin,
A mwynhau’r diwrnod braf
Diod yn eich llaw, a’r haul yn mynd lawr
Does n’am llawer gwell na hyn
A dyma’r ffordd orau i orffen
Dydd delfrydol, fy ffrind
Yr hyn sy’n gwneud y byd i droi
A’n gwneud ni i deimlo’n dda
Sdim byd yn well ar ddiwrnod ffein
Mewn tywydd hufen iâ
|
||||
3. |
Dant Melys
03:28
|
|||
Dim ond tamaid bach
Jest y pishyn lleia rwy’n moyn
Digon i gael blas
Neu faint bynnag ti’n fodlon rhoi
Mae gen i awydd
Sy’n naturiol
Rho beth i mi nawr
Gall hyn fod yn ddifrifol
Sdim dewis da fi
Pweris yw hi
Dant melys sgen i
Ble mae’r pethau da?
Fi’n ffili ffeindio nhw yn un man
Fi’n gwybod bo nhw’ ‘ma
Nai chwilio nes bod nhw'n troi lan
Ie, mae’n angen
Sy ddim yn ddelfrydol
Byth yn dod i ben
Gorfod bwydo’r diafol
Mae’n ddansheris i fi
Truenis rili
Dant melys sgen i
Busgien neu gacen
Switsen neu deisen
Loshynnen neu bibren
Synne’n i gacen
Dim ond tamaid bach
Jest y pishyn lleia rwy’n moyn
Digon i gael blas
Neu faint bynnag ti’n fodlon rhoi
Synne’n i gacen
Licen i gacen
|
||||
4. |
Duwies Y Dre
03:37
|
|||
A ydw i’n gweld
Neu ydw i’n breuddwydio
Y ferch yna
Y hyfryta
Ti’n gwybod beth?
Sgipiodd nghalon i guriad
Pan welais hi
Yn cerdded heibio fi
Mae’n gwneud i’r geiriau hyn
I deimlo’n ddiystyr
Duwies y dre
Duwies y dre
Mae’n anodd
I ganolbwyntio
Ar unrhywbeth
Mae’i mor brydferth
Mae pob peth
Amdani’n berffaith
Sdim byd o’i le
Gyda duwies y dre
Dyw canu’r alaw hyn
Ddim yn camharu â hi
Duwies y dre
Duwies y dre
A pwy ‘dy’r un mor lwcus?
A mor ffodus i fod ‘da hi?
Mae’n rhaid bod nhw’n rhyw fath o dduw
I fod ‘da un fel hi
Yn ôl y sôn
Mae ganddi gariad
Yn ôl y sôn
Yn ôl y sôn
|
||||
5. |
Gwên
04:15
|
|||
Gwenu yn y bore
Disgleirio fel yr haul
Dihuno yn y dwyrain
Disgyn fel y dail
Gwenu yn fy meddwl
A’m llygaid i ar gai
Byth yn ei cholli
Dal i barhau
Gwên
Ei gwen sydd yn yr awyr
Clîr fel golau dydd
Mae wastad yn gwenu
Mae wrthi o hyd
Ei gwen sy yn y pellder
Ei gweld hi’n agosau
Gweld hi mewn bob ffenest
Agored neu ar gau
Gwên
Gwenu yn y gwely
Gwenu trwy’r dydd heddi
Gwenu ar y teli
Ei gwen hi byth yn benu
Gwen fawr ar ei gwyneb
Sy’n cadw’r byd i droi
Os na fydd e yna
Na be fi ishe rhoi
Gwelir yn fy nghalon
Pob eiliad o’r dydd
Mae gwên hi fel yr enfys
Sy’n lliwio fy myd
Gwên
|
||||
6. |
Olion
03:42
|
|||
Hen olion
O amser maeth yn ol
Ysbrydion
A ddaeth yn ol
Teimladau
Rhywun arall
Meddyliau
Rhwy’n ffili deallt
Ysbrydion hehe
Yn yr olion hehe
Gwynebau
Yn syllu arnai
O’r lluniau
O’m blaen
Hanesion
Y tudalenau
Ystyron
Yn aneglir
Ysbrydion hehe
Yn yr olion hehe
Dadcu Dadcu dewch mas o’r ty
I weld jinop ar gefn y ci
Lleisiau
Ar yr awel
Adleisio’n
Fwyn a thawel
Y sgrifen
Ar y waliau
Yn fy nenu
I’r dyddiau gynt
Ysbrydion hehe
Yn yr olion hehe
|
||||
7. |
Ymosodwyr Anweledig
04:18
|
|||
Pwy sy’n sgwennu’r pethau cas
Heb fynd mas o’i stafell wely?
Taflu geiriau fel saethau at waliau pobl eraill
Wastad dienw neu ffugenw, mae’n anodd i’w ffeindio nhw
Pobl ofnus ond peryglus os ti’n rhoi sylw iddyn nhw
Oes ganddyn nhw reolau arbennig?
Dim byd i’w roi, gwell i’w osgoi yr Ymysodwyr Anweledig
Mae wastad yn bastad i glywed amdanynt
Yn brifo pobl ddiniwed drwy ryw fath o helynt
Sdim llawer o bwer i stopio nhw eto
Gobeithio mi ddaw rhywbeth rhyw bryd, ryw dro
Oes ganddyn nhw reolau arbennig?
Dim byd i’w roi, gwell i’w osgoi yr Ymysodwyr Anweledig
Yn byw mewn amgylchfyd anhysbys, anghysbell
Eu syniadau dieflig cynddrwg ag unrhyw beth
Tyfu mwy a mwy mewn niferoedd dros y dyddie
Mae’n arwydd o’r amser, rhaid imi gyfaddef
Oes ganddyn nhw reolau arbennig?
Dim byd i’w roi, gwell i’w osgoi yr Ymysodwyr Anweledig
|
||||
8. |
Hen Beth Cas
03:59
|
|||
Wedi cael ei ddala
A’i fysedd yn y til
Roedd yn eitha amlwg
Ddim lot o sgil
Dim byd yn digwydd
Ar ol y ffaith
Anghofia y drosedd
Cer nol i’r gwaith
Dyma be sy’n digwydd
Os na ti’n edrych mas
Hen beth cas!
Na hen beth cas
Dyma ragflas
O’r hen beth cas
Watsha dy gefn
Mae lladron byty’r lle
Gall dwgin ddigwydd
Sdim dal pryd na ble
Bydd neb yn cael ei gosbi
‘Llwch chi anghofio ‘ny
Pawb yn rhy brysur,
Fel’na mae’i heddi
Dyma be sy’n digwydd
Os na ti’n edrych mas
Hen beth cas!
Na hen beth cas
Dyma ragflas
Am yr hen beth cas
Hen beth cas!
Na hen beth cas
Gwell edrych mas
Am yr hen beth cas
|
||||
9. |
Undiú
04:14
|
|||
10. |
Diolch Amdani
04:21
|
|||
Mae ganddi ffordd
O wneud pethau i ddigwydd
I weld o safbwynt newydd
Mae ganddi ffordd
Mae gyda’i steil
Unrhyw amser chi’n gweld hi
Sdim ots ta ble mae hi
Mae ganddi steil
Ni’n lwcus i alw hi’n ffrind
A hapus i feddwl boi’n mynd
I fod yna i ni
Diolch amdani
Mae’n gallu
Rhoi gwreiddiau lawr mewn llefydd
A tynnu bobl at ei gilydd
Mae’n gallu
A ni’n lwcus i alw hi’n ffrind
A hapus i feddwl boi’n mynd
I fod yna i ni
Diolch amdani
Am dy gefnogaeth
Obrigado
Am dy garedigrwydd
Obrigado
Am yr ysbrydoliaeth
Obrigado
Am dy gwmni di
Obrigado
Am y cyfle hyn
Obrigado
A’r holl gyfleoedd
Obrigado
Am rhoi ni gyda’n gilydd
Obrigado
Am yr eiliad hon
Obrigado Chrissie
|
Streaming and Download help
If you like Carwyn Ellis & Rio 18, you may also like: